peti's scrapbook - filled with thoughts & articles


Prynu ar y cyd er mwyn y Gymraeg

 

Dydy’r Gymraeg, fel y gwyddoch, ddim yn cael chwarae teg mewn busnesau mawrion.

Dydy busnesau Cymraeg ddim yn ei chael hi’n hawdd i gystadlu yn eu herbyn nhw ‘chwaith.

Ond mae dros 500,000 o siaradwyr Cymraeg!

Dylai hynny fod yn ddigon i sicrhau mantais fasnachol i fusnesau sy’n defnyddio’r Gymraeg.

***

Ac mi fydd - os byddwn ni’n gweithio ar y cyd.

Roedd syniad cychwynnol DimeGoch.com i ni ffurfio rhestr ebost o bobl sy’n fodlon newid y siopau a busnesau maen nhw’n eu defnyddio os bydd gwasanaeth Cymraeg ar gael yn rhywle arall.

Pe bae modd dweud wrth Orange, er enghraifft, bod 5000 o gwsmeriaid yn fodlon symud atyn nhw os byddant yn cynnig gwasanaeth Cymraeg, yn fuan iawn byddai newid mawr.

A dyna yn union bydd DimeGoch
yn dweud wrthyn nhw!

Un problem sydd gyda hynny - rhaid gwybod y byddai canran uchel o’r rheiny ar y rhestr ebost yn ddigon o ddifrif i newid go-iawn. Mae angen pobl sy’n gwneud, nid pobl sydd yn malu awyr yn unig.

Ac felly datblygu ail syniad DimeGoch.com - bod rhaid talu £1 y mis i fod ar y rhestr ebost (ond cewch roi mwy pe dymunwch, wrth gwrs!).

Bydd pob ceiniog yn mynd at hyrwyddo DimeGoch.com a lobïo cwmniau i ddarparu gwasanaeth Cymraeg.

Leanne Wood, Aelod Cynulliad Plaid Cymru:

‘Rwy’n falch iawn o gefnogi’r fenter yma i hyrwyddo defnydd o’r Gymraeg yn y byd busnes. Mae siaradwyr Cymraeg wedi cael eu hanwybyddu gan gwmnïau mawr sy’n gallu fforddio talu am wasanaeth Cymraeg ers yn rhy hir.’

***

Ansicr? Rhai gwestiynau i’w gofyn? Ebostiwch ni at gwas[at]dimegoch.com - byddwn yn cyhoeddi’r cwestiynau, a’u hatebion, ar y wefan hon. Cliciwch YMA i’w darllen.

***

Nick Bourne, arweinydd y Blaid Geidwadol yng Nghymru:

‘Mae hyn yn syniad arbennig ac yn gyfle gwych, a dw i’n fodlon iawn ei gefnogi. Gobeithio bydd Aelodau Cynulliad eraill yn gwneud yr un peth.’

Ydych chi am ddod gyda ni? Ydych chi am ddefnyddio cryfder economaidd y Cymry, y bunt Gymraeg, i greu marchnad wirioneddol Gymraeg?

Os felly, cliciwch yn fan hyn i lawrlwytho ffurflen archeb banc, a’i anfon atom ni heddiw.

Fel sydd wedi bod yn wir erioed: gyda’n gilydd, nid oes modd ein dal ni’n ôl.

Ymlaen!…:-)