BETH rydym eisiau gwneud:
- gadael i chi wybod am gwmnïau Cymraeg sy’n haeddu eich cefnogaeth
- annog mentro gan y Cymry trwy gefnogi busnesau Cymraeg newydd
- cryfhau ein heconomi trwy gadw mwy o’n harian ni yn troi yng Nghymru
- dangos i gwmnïau rhyngwladol bod angen iddynt barchu ein hiaith
SUT rydym eisiau ei wneud:
- trwy gael pawb sydd yn teimlo’n gryf am Gymru i danysgrifio i’n rhestr ebost
- trwy ofyn i chi am £1 y mis, a’r CWBL yn mynd at helpu ymledu’r gair
- trwy adael i chi wybod am gwmnïau Cymraeg efallai na fyddwch yn clywed amdanynt fel arall
- trwy adael i gwmnïau rhyngwladol wybod faint o bobl sydd yn mynnu iddynt barchu eini hiaith
PAM bydd hyn yn gweithio:
- Cryfder cydweithio – gyda llond llaw o gefnogwyr, rydym eisoes wedi cynilo dros £1000 er mwyn hyrwyddo busnesau Cymraeg
- Cylch cryfhau grymus – po fwyaf y cefnogwyr, po fwyaf bydd modd i ni ymledu’r gair
- Cefnogaeth holl-bwysig ar gyfer cwmnïau Cymraeg newydd sydd fel arall yn cael marchnata yn her fawr iawn
- Rheswm CADARN i gwmnïau rhyngwladol drin Cymru gyda pharch
***
Yn barod i helpu? Yn barod i ddefnyddio cryfder economaidd y Cymry a’r bunt Gymraeg i greu marchnad wirioneddol Gymraeg?
Os felly, cliciwch yn fan hyn i lawrlwytho ffurflen archeb banc, a’i anfon atom ni heddiw.
Fel sydd wedi bod yn wir erioed: gyda’n gilydd, nid oes modd ein dal ni’n ôl.
Ymlaen!…:-)
***
Ansicr? Rhai gwestiynau i’w gofyn? Ebostiwch ni at gwas[at]dimegoch.com – byddwn yn cyhoeddi’r cwestiynau, a’u hatebion, ar y wefan hon. Cliciwch YMA i’w darllen.