DimeGoch.com

Leanne Wood o Blaid Cymru yn cefnogi DimeGoch.com
Cafodd ymgyrch iaith newydd, DimeGoch.com, sydd yn cynnig y cyfle i danysgrifio i restr ebost gyda’r bwriad o gydlynu pwyso gan gwsmeriaid am wasanaethau yn y Gymraeg gan fusnesau mawrion, hwb sylweddol arall gyda’r newyddion bod Aelod Cynulliad blaenllaw Plaid Cymru, Leanne Wood, wedi tanysgrifio i’r rhestr.

‘Rydym wrth ein boddau bod Leanne wedi datgan cefnogaeth i ni,’ medd Aran Jones, un o sylfaenwyr DimeGoch.com, ‘a rydym yn gobeithio y bydd yr arweiniad yn dod o gyfeiriad y Cynulliad yn hyn o beth yn annog ffigyrau cyhoeddus eraill yng Nghymru i ddod yn rhan o hyn.  Mae DimeGoch.com ar agor i unrhyw un sydd am weld dyfodol llewyrchus i’r iaith Gymraeg, boed yn siaradwyr Cymraeg neu beidio.  Os bydd pawb sydd o blaid yr iaith yn cefnogi’r ymgyrch hon, rydym yn credu y caiff effaith sylweddol, tymor hir ar y sector preifat yng Nghymru.’

Mae tanysgrifwyr i’r wefan yn talu lleaifswm o £1 y mis, caiff ei wario ar hysbysebu DimeGoch.com. Y bwriad ydy creu rhestr o gwsmeriaid sydd yn fodlon newid at gwmnïau sydd yn cynnig gwasanaethau yn y Gymraeg (os bydd y cwsmeriaid eisiau defnyddio’r gwasanaeth hynny neu beidio!). Mae esboniad llawn o amcanion y wefan ar gael ar DimeGoch.com.

‘Rwy’n falch iawn o gefnogi’r fenter yma i hyrwyddo’r ddefnydd o’r Gymraeg mewn byd busnes,’ dywedodd Aelod Cynulliad Plaid Cymru Leanne Wood.  ‘Mae siaradwyr Cymraeg wedi cael eu hanwybyddu gan gwmniau mawr sy’n gallu fforddio talu am wasanaeth Cymraeg ers rhy hir. Ynghyd a mentrau gwirfoddol fel rhain, mae arnom angen Deddf Iaith briodol a fydd yn sicrhau fod gan siaradwyr Cymraeg hawliau sylfaenol, fel yr hawl i siarad Cymraeg yn y gweithle. Am lawer o flynyddoedd, mae llywodraethau Llafur a Thoriaidd ill dau wedi canolbwyntio’n unig ar gael cwmniau mawr i gydnabod yr iaith yn unig. Nid yw hynny’n ddigonol ac mae Plaid Cymru wedi’i ymrwymo i wireddu deddf iaith ac iddi sylfaen hawliau.’

Arweinydd y Ceidwadwyr yn cefnogi ymgyrch iaith newydd
Cafodd gwefan newydd, DimeGoch.com, sydd yn cynnig y cyfle i danysgrifio i restr ebost gyda’r bwriad o gydlynu pwyso gan gwsmeriaid am wasanaethau yn y Gymraeg gan fusnesau mawrion, hwb sylweddol wrth glywed bod Nicholas Bourne, arweinydd y Gwrth Bleidiau yn y Cynulliad, wedi tanysgrifio i’r rhestr.

‘Mae hyn yn newyddion calonogol iawn i ni,’ medd Aran Jones, un o sylfaenwyr DimeGoch.com, ‘a rydym yn gobeithio y daw mwy o Aelodau’r Cynulliad a ffigyrau cyhoeddus eraill i’n cefnogi dros y misoedd nesaf.  Mae DimeGoch.com yn ffordd newydd a phositif i wella gwasanaethau yn y Gymraeg yn y sector preifat, ac mae modd i unrhyw un ei gefnogi’n hawdd, boed yn siaradwyr Cymraeg neu beidio.  Os bydd modd cyrraedd y pwynt lle mae miloedd o bobl ar y rhestr, bydd yn cael effaith tymor hir ar sector preifat Cymru.’

Mae tanysgrifwyr i’r wefan yn talu lleaifswm o £1 y mis, caiff ei wario ar hysbysebu DimeGoch.com.  Y bwriad ydy creu rhestr o gwsmeriaid sydd yn fodlon newid at gwmnïau sydd yn cynnig gwasanaethau yn y Gymraeg (os bydd y cwsmeriaid eisiau defnyddio’r gwasanaeth hynny neu beidio!).  Mae esboniad llawn o amcanion y wefan ar gael ar DimeGoch.com.

‘Mae hyn yn syniad arbennig ac yn gyfle gwych,’ medd Nicholas Bourne, ‘a dw i’n fodlon iawn ei gefnogi.  Gobeithio bydd Aelodau Cynulliad eraill yn gwneud yr un peth.  Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn awyddus i gynyddu defnydd o’r Gymraeg ym mhob rhan o fywyd fel rhan o’n awydd i greu Cymru wirioneddol ddwyieithog.  Dylid annog busnesau, heb eu gorfodi, i wneud defnydd llawn o’r iaith Gymraeg, yn hytrach na chodi rhwystrau iddi.  Mae addysg, cefnogaeth ac anogaeth – yn hytrach na gorfodaeth – yn ffyrdd effeithiol ymlaen wrth hyrwyddo defnydd mwy o’r Gymraeg.’