DimeGoch.com

prynu Cymru yn ôl

Pwy ydych chi?

Cafodd DimeGoch.com ei sefydlu gan Mabon ap Gwynfor, Nic Dafis, Hedd Gwynfor ac Aran Jones. Hwythau ydy’r gwirfoddolwyr bydd yn trefnu’r hysbysebion ac yn cydlynu’r lobïo. Mae croeso cynnes iawn i unrhyw un sydd am helpu gyda’r gwaith…:-)

Oes modd hysbysebu ar DimeGoch.com?

I gwmnïau sydd am gefnogi DimeGoch.com, mae modd dod yn noddwr am £5 y mis. Bydd noddwyr yn cael eu rhestri ar dudalen ‘Cefnogwch ein cefnogwyr’. I ofyn am ffurflen noddi, ebostiwch gwas[at]dimegoch.com.

Sut bydd yr arian yn cael ei wario?

Y peth pwysig i gychwyn yn ein tyb ni ydy cadw pob dim yn syml. Bydd arian sy’n cael ei gasglu gan gyfrannwyr DimeGoch yn mynd at hysbysebu (ar y we, Golwg, Y Cymro, Y Byd, Western Mail ayyb) hyd nes bod digon ar y rhestr i ddechrau lobio cwmniau mawr. Wedyn y syniad yw rhannu unrhyw arian rhwng hysbysebu a lobïo.

Bydd unrhyw arian sy’n cael ei ddefnyddio ar gyfer lobïo yn talu costau cynhyrchu papur pennawd, cynnal cyfarfodydd ayb i ddechrau, a gobeithio yn y tymor hir bydd modd cyflogi swyddog i’w wneud yn rhan amser (ond yn amlwg mae hynny tipyn i lawr y lein).

Yn y tymor byr/canol felly bydd dim costau rheoli, a bydd pob ceiniog yn mynd at hysbysebu, gyda criw yn cyfathrebu’n gyson trwy ebost, a gwneud penderfyniadau fel sydd angen.

Sut ydych chi’n bwriadu dylanwadu ar y cwmniau mawrion?

Mae maint ein dylanwad yn mynd i ddibynnu ar nifer y bobl sy’n cymryd rhan yn y cynllun, felly os nad ydych eisioes wedi, plis cliciwch yn fan hyn i lawrlwytho ffurflen archeb banc, a’i anfon atom ni heddiw. Pe bae modd dweud wrth Orange, er enghraifft, bod 5000 o gwsmeriaid yn fodlon symud atyn nhw os byddant yn cynnig gwasanaeth Cymraeg, yn fuan iawn byddai newid mawr.


Unrhyw gwestiynau eraill? Ebostiwch ni at gwas[at]dimegoch.com, a byddwn yn ateb eich cwestiwn mor fuan â bod modd, a’i gynnwys yn fan hyn hefyd…:-)


Ydych chi am ddod gyda ni? Ydych chi am ddefnyddio cryfder economaidd y Cymry, y punt Cymraeg, i greu marchnad wirioneddol Gymraeg?

Os felly, cliciwch yn fan hyn i lawrlwytho ffurflen archeb banc, a’i anfon atom ni heddiw.

Fel sydd wedi bod yn wir erioed: gyda’n gilydd, nid oes modd ein dal ni’n ôl.

Ymlaen!…:-)